O'r Parsel Canol

Monday 13 April 2009

Danteithion Pasg yn Wien


Pasg yn Wien, originally uploaded by Gwenddolen.

Tusw o fenyg Pasg yn Wien


Tusw o fenyg Pasg yn Wien, originally uploaded by Gwenddolen.

Sunday 5 April 2009

Dydd Gwener Du

Tân enbyd yn un o ffermdai hyna'r Parsel Canol wedi bod yn llosgi o amser te Dydd Gwener tan fore Sadwrn ond neb wedi'i anafu diolch i'r drefn. Popeth wedi'i wneud yn ddiogel erbyn hyn a'r gwaith glanhau ac atgyweirio wedi cychwyn yn barod.

Cerfluniau ar y traeth yn Ynys-las

Un o gyfres o gerfluniau ar y traeth yn Ynys-las. Brogaod, llygod, llyswennod a mwy. Bydd y Ganolfan Ymwelwyr yn agor yn fuan. Eangderau Ynys-las, y boardwalks, y barcutiaid, y gwynt, a'r cwbl o Fae Ceredigion yn disgeirio yn yr haul.

Thursday 2 April 2009

Celf o'r Parsel Canol


Llun o dy yn y Parsel Canol, originally uploaded by Gwenddolen.

Llun a dynnodd Gwenddolen flynyddoedd yn ôl. Enw 'r hen blwyf sifil oedd y Parsel Canol sydd erbyn hyn yn rhan o gymuned Trefeurig.

Melin Tre-gwynt mewn cuddwisg


Melin Tre-gwynt mewn cuddwisg, originally uploaded by Gwenddolen.

Mondo gan Felin Tre-gwynt yn cuddio'n swil. Mae menyw smart dros ben yn Aberystwyth sy'n gwisgo cot o'r defnydd hwn, ac 'wn i ddim faint o bobl yn cario bagiau hefyd . . . . patrwm eithaf hen erbyn hyn ond un a oedd o flaen ei oes, neu o leiaf ar frig y ffasiwn pan ddaeth e mas gyntaf.

Random retro II


Random retro II, originally uploaded by Gwenddolen.

Yr hen sgert eto sy'n denu sylw ym mhob man. Perchennog y siop ddillad newydd yn Aberystwyth (Heol y Wig, lle'r oedd Franks o'r blaen) yn holi o ble y daeth (sêl Hobbs c. 2003). Y siop newydd yn gwerthu jeans lliwus gan Monkey 'No Blood, Sweat or Tears'.

Random retro I


Random retro I, originally uploaded by Gwenddolen.

Y defnydd a oedd yn gwrlid ar y gwely pan oeddwn yn groten fach. Bellach yn llenni ar ffenest y stydi. Ailgylchu = cofio = pethau ystyrlon o gwmpas y ty.

On a day like this. . . . ble allai fod yn fwy prydferth na'r Coleg ger y Lli?


aberorawyr, originally uploaded by Gwenddolen.

Wednesday 1 April 2009

Gardd gefn fel y bydd hi cyn bo hir


Gardd gefn, originally uploaded by Gwenddolen.

Gardd gefn yn y Parsel Canol: Mantell Mair a Papaver Cambrensis

Marcio

Faint o amser sydd ei angen i farcio traethawd o ddwy fil o eiriau? Tri chwarter awr os yw'r gwaith yn weddol, ond hyd at awr gyfan os yw'r iaith yn wallus, yr atalnodi'n flêr, a'r cynnwys yn annigonol. Gyda dosbarth o 34, fel sydd gen i yn y set bresennol, mae hynny'n bwyta i mewn i'r wythnos. Bydd 19 arall yn glanio ar y ddesg erbyn Dydd Gwener ynghyd â thraethodau estynedig sylweddol iawn (dros 10,000 o eiriau yr un). Mae marcio gwaith myfyrwyr yn lot o sbort os wyt ti'n gwybod pwy yw'r awduron — ac felly'n dod i'w nabod, dod yn gyfarwydd â'u harddull, eu gwendidau, eu problemau iaith, eu personoliaeth. Ond llai diddorol fel arall, os oes set o draethodau dienw. Fi a'r myfyrwyr ar eu colled rhag ofn i rywun gael cam. A dyna'r drefn bellach, ysywaeth, ac eithrio mewn rhai achosion arbennig.

Labels: