O'r Parsel Canol

Sunday 28 June 2009

Tin pinc o Awstria


Tin pinc o Awstria, originally uploaded by Gwenddolen.

Saturday 27 June 2009

Llefydd da i aros yn Awstria

Awstria yn ymdrechu'n galed i dynnu'r twristiaid yn ôl, ond mae rhywun yn ofni y bydd Brüno (Sacha Baron Cohen) yn gwneud mwy o niwed eto i ddelwedd y wlad. Y llety enwocaf i'r Cymry Cymraeg yw gwesty wunderschön Frau Anita Schenk ( Cymraes o Flaenau Ffestiniog) a'i gwr rhadlon, Heinz, sy'n gogydd tan gamp. Gwesty mewn adeilad traddodiadol ar gyrion Altenmarkt im Pongau sydd i'r de o Salzburg, yn gyfleus ar gyfer cerdded y mynyddoedd, dilyn Mozart, gwibio i Hallstatt a Hallein a gweld holl ardal y Salzkammergut. Stafelloedd arferol, a hefyd fflat ar gael. Pwll nofio'r dref yn agos, a pharc chwarae, a'r dref ei hun yn ddiogel, yn ddiddorol, ac yn lân. Lle delfrydol ar gyfer teulu â phlant ifainc. Anfantais i rai fyddai cwrdd â rhywrai eraill o Gymru . . . . ond nid i bawb. Gweler ymhellach yma. Nid wyf yn perthyn i'r perchnogion nac yn elwa mewn unrhyw ffordd ar hyn o hys-bys. Yr ail le y mae'n werth gwybod amdano yw Hotel Schwalbe yn Fienna, ym maestref Ottakring, yn agos i'r U-Bahn Linie 3. Dyma le arall sy'n groesawgar iawn, ac yn llawn awyrgylch yr hen ddinas. Y bumed genhedlaeth sy'n cadw'r lle. Bûm yno gyntaf yn 1983, ac eto eleni amser Pasg chwarter canrif yn ddiweddarach.

Thursday 25 June 2009

Gwenoliaid yn barod i fentro allan o'r nyth

Nythaid o wenoliaid tew ar fin gadael clydwch y nyth yn y porch. Holl ofal y rhieini wedi talu ar ei ganfed.

Tuesday 23 June 2009

Pantycelyn rules

Ymgrymed pawb i lawr
I enw'r addfwyn Oen;
Yr enw mwyaf mawr
Erioed a glywyd sôn:
Y clod, y mawl, y parch, a'r bri,
Fo byth i enw'n Harglwydd ni.
Pantycelyn yn dal i roi ysgytwad gyda'i odlau deheuol digyfaddawd (oen/sôn) a'i ramadeg heriol. Gwych yw mwyaf mawr fel bestest Shakespeare, gair y mae'r defnydd ohono'n cynyddu'n aruthrol y dyddiau hyn (gan ddisodli'r best ever, best of all). Yn falch o weld fod enghraifft arall o'r radd eithaf 'ddwbl' hon i'w gweld yng Nghanu Taliesin : a'r parth goreuhaf/ ydan eilassaf'a'r lle gorau [i fod yw] dan [awdurdod] y dyn mwyaf ysblennydd'. Am weddill llinell Williams, mae rhywbeth tebyg unwaith eto yn yr hen ganu haelaf rygigleu 'the most generous one I've heard of'. Onid yw dyn yn cynhesu at rywun fel yr Hen Bant sy'n cael anhawster (fel y rhan fwyaf ohonon ni) gyda'r cymal perthynol afrywiog, y llyfr y mae llawer o bethau da ynddo math o beth?

Tuesday 9 June 2009

Something comes slowly to the boil in Sleep Furiously

Ffilm Gideon Koppel, Sleep Furiously, am fywyd a gwaith a thirwedd ein hardal, yn cael ei chanmol ar bob tu ac yn haeddiannol felly. Mae'r ffilm yn cael ei dangos nawr yn Llundain ac mae sôn y bydd ar gael cyn bo hir ar DVD. Mae'n dangos eto yng Nghanolfan y Celfyddydau o 12-17 Mehefin gyda sesiwn hawl-ac-ateb gyda'r cyfarwyddwr, Gideon Koppel (uchod, mab Pip Koppel, Llety Caws) ar 20 Mehefin, am 5.45 p.m. Mae'n siarad am y ffilm ar safle BBC Film Network yma. Ac mae clip o'r ffilm i'w weld yma. Rhai o uchafbwyntiau'r ffilm i mi oedd Dyn Y Fan Llyfrgell (a welais ar un o heolydd cefn y Parsel Canol y diwrnod o'r blaen); côr ABC gyda holl angerdd y gerddoriaeth (gan ?Stanford) yn cael ei fynegi yn wyneb Angharad Fychan; a'r darnau a saethwyd gyda'r plant yn Ysgol Trefeurig. Doedd tempo araf y ffilm ddim at ddant pawb yn y Parsel ei hun, ond rwy'n siwr y bydd y ffilm hon yn dod yn glasur.

Monday 8 June 2009

Ofni'r Dde

Echrys yn mynd drwof wrth weld llun Nick Griffin buddugoliaethus ar brif wefan DU y BBC y bore yma. Yn falch dros ben fod Jill Evans wedi cael ei hethol am y drydedd waith: rhywun o sylwedd ac argyhoeddiad (ac un o alumni Prifysgol Aberystwyth, wrth gwrs!).

Saturday 6 June 2009

Wasgod sidan Leo Abse


Wasgod sidan Leo Abse, originally uploaded by Gwenddolen.

Het, sbectol a ffon Leo Abse


Het, sbectol a ffon Leo Abse, originally uploaded by Gwenddolen.

Ensemble o ddillad a welwyd mewn sawl teyrnged iddo y llynedd, fel Yma. Fe'i cynlluniwyd, fel ei holl wisgoedd ar gyfer Diwrnod y Gyllideb, gan ei wraig Marjorie (née Davies), a oedd yn artist, yn ddylunydd ac yn bennaeth yr adran addysg yn Ysgol Gelf Caerdydd.

Leo Abse a Paul Murphy

Minnau am unwaith yn fy mywyd yn y fan a'r lle pan oedd hanes yn digwydd — brynhawn Dydd Gwener, 5 Mehefin, yn Mhont-y-pwl, yn yr Amgueddfa lle roedd arddangosfa fach am Leo Abse ac am fardd lleol yn cael ei hagor yng ngwydd tua chant o ymwelwyr. Siaradodd Dannie Abse yn huawdl iawn am ei frawd; yna daeth Paul Murphy, AS Torfaen ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ymlaen i sôn am ddylanwad Abse arno ef yn bersonol, ac am ffordd y gwnaeth ei ddeddfwriaeth ym meysydd cyfunrywiaeth, ysgariad, etc. newid bywyd i filoedd ar filoedd o unigolion. Yna, atgofion Bathsheba am ei thad a'i mam (Marjorie Davies), a'r ffordd y byddai'r teulu bob Nadolig yn treulio'r diwrnod yn ymweld ag ysbytai'r etholaeth a chartrefi'r henoed. Paul Murphy'n gartrefol iawn gyda phawb amser te. Ond erbyn dod allan o'r cyfarfod a throi mlaen radio'r car, dyma ddeall fod Paul Murphy wedi cael ei ddisodli'n ddisymwth gan Peter Hain. Au revoir eto. Diwrnod du i Lafur.

Thursday 4 June 2009

Gair yr wythnos: Mewydyn


Sloths, originally uploaded by alumroot.

Mewydus 'dioglyd, swrth', o mewyd 'diogi' a esgorodd hefyd (erbyn 1866) ar y gair mewydyn 'mamolyn hirflew diddannedd araf a swrth sy'n byw yn fforestydd trofannol Canolbarth a De America, ac sy'n perthyn i deulu'r Bradypodidae'. Sloth, mewn geiriau eraill. Pwy fuasai'n meddwl?

Vote early vote often

Braidd neb o gwmpas heno yng Ngorsaf Bleidleisio'r Parsel Canol. Y rhestr yn hwy na'r disgwyl gyda dwy garfan o nacawyr Ewrop, plaid 'Gristnogol' Cymru, Llafurwyr Scargill, BNP, a no-hopers eraill. Efallai fod pawb yn yr ardd ar ôl swper. Yn rhyfedd iawn mae'r tai newydd gyda'u gerddi anffurfiol, anniben, wedi gwella golwg y pentref. Ond i ble yr aeth yr hen A35 llawn o flodau? Gardd sy'n werth ei gweld yw honno ar dop y Waun yn Aberystwyth sy'n llawn pabis cochion, pob un o faint plât. Blwyddyn dda ar gyfer rhai planhigion eleni: fioledau, briallu wedi ffynnu, ond Valerian (Triaglog) yn siomedig, yn y Parsel Canol beth bynnag.

Amgueddfa Pont-y-pwl


Gatehouse, originally uploaded by welshgog.

Yn paratoi i fynd yma yfory i weld agoriad arddangosfa am fywyd a gwaith y diweddar Leo Abse, AS dewr a diflino Llafur dros yr etholaeth hon, bellach Torfaen. Bloc stablau Pontypool Park House wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar.