O'r Parsel Canol

Wednesday 21 October 2009

Cynghordy, Llanfair-ar-y-bryn

Ewyllys Rees Jones, Brynhynog, Llanwrtyd

Wedi bod yn pori'n hapus ar safle Llyfrgell Genedlaethol lle y mae 190,000 o ewyllysiau o bob rhan o Gymru i'w gweld ar ffurf ddigidol, ac am ddim. Mewn dim o dro, cefais hyd i ewyllys Rees Jones, Brynhynog (y fferm lle magwyd fy mam) ym mhlwyf Llanwrtyd, a gweld enwau swynol o'm plentyndod: Caerhedyn, Escairfach, Ffos-gou, etc. Yna i Abergwesyn, i ardal wreiddiol fy nhad-cu, ar fferm Alltwinau, a gweld ewyllysiau gwyr Nantstalwen, a llawer mwy. Clic arall a dyma fi yn ardal enedigol fy mam-gu arall, yn Llanfair-ar-y-bryn, gyda Hannah Peters, Rhydfelen (rhwng Cynghordy a Chil-y-cwm) yn rhoi ordors am ei hychydig gelfi ac eiddo ('largest iron pot', etc.). Dyma adnodd anhygoel yn wir.