O'r Parsel Canol

Thursday 28 May 2009

Eglwys Gwenddolen, Llys-wen, sir Frycheiniog

Ni chofnodir yr enw Cymraeg Gwenddolen yn y ffynonellau cynnar, ond ceir Guendoloena yn ferch i Locrinus yng ngwaith Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae. Troswyd y ffurf honno gan y cyfieithwyr Cymraeg (Brut y Brenhinedd) yn Gwenddolau fel arfer. Tybir bod Sieffre o Fynwy wedi meddwl mai enw merch oedd yr enw Gwenddolau (oherwydd yr elfen gwen). Hoffwn wybod pa mor hen yw'r cysylltiad rhwng eglwys Llys-wen a'r 'santes' Gwendoline. Yn yr un ardal, ceir y santes Gwen, merch Brychan Brycheiniog. Ar ei henw hi y cysegrwyd Eglwys Talgarth, sir Frycheiniog. Nid yw'r Gwen honno i'w chymysgu â Gwen Teirbron (ferch Emyr Llydaw). Peter Bartrum yn ei Welsh Classical Dictionary 312 yn dyfynnu barn Dr Thomas Stuttaford (meddyg dof The Times — y tippler's friend sy'n dweud pa mor iachus yw gwin coch) ar y pen hwn: 'Supernumerary nipples and (occasionally, in women) extra breasts are quite frequently seen by doctors'. Rheswm da arall dros beidio â mynd yn feddyg.

Gruffudd Eifion yn ennill y Fedal Ddrama


Myfyriwr ymchwil o Adran y Gymraeg Aberystwyth yn cipio un o brif wobrau Steddfod yr Urdd. Mae Gruffudd Eifion Owen yn gwneud MPhil ar waith Wil Sam (a oedd yn arwr mawr iddo) ac yn gwneud gwaith dysgu yn yr Adran hefyd. Bardd, dramodydd, jyglwr, canwr, cyfieithydd, cynganeddwr . . . dim diwedd i'w ddoniau.

Monday 25 May 2009

Ruth Padel yn ymddiswyddo; Gwyneth Lewis for Professor of Poetry

Newydd ddarllen yn Times Online am ymddiswyddiad Ruth Padel o fod yn Athro Barddoniaeth yn Rhydychen. Trueni mawr, a hithe'n llenor mor dalentog ac amlochrog. Dau o'i brodyr â chysylltiadau Cymreig -- un yn siarad Cymraeg yn rhugl ac un arall wedi bod yn byw yn sir Benfro. Stand-by am ragor o newyddion o'r Gelli Gandryll yfory pan fydd hi'n siarad yno. Gwych gweld y merched yn serennu: Fflur Dafydd (Gwobr Oxfam), Samantha Wynne Rhydderch, Gee Williams, Deborah Katy Davies (y tair hyn ar restr fer Saesneg Llyfr y Flwyddyn; sioc i mi oed gweld nad oedd cofiant Raymond Williams gan Dai Smith yno). Beth am Gwyneth Lewis nawr i sefyll yn Rhydychen? Galluog tu hwnt: Oxord gel (DPhil) a Chaer-grawnt hefyd, Harvard, Princeton, Lundy Island. . . . byddai hi jest mor wych.

Sunday 24 May 2009

Pregeth arall


Capel Madog, originally uploaded by traed mawr.

I Samuel pennod 3 yn destun pregeth yn y capel heddiw: ond pregeth gwbl wahanol i'r un a gafwyd ar yr un testun rai wythnosau yn ôl (gan bregethwr gwahanol). Saith yno heddiw, gan gynnwys yr organydd a'r pregethwr ei hun — gwr profiadol a da sydd yn y weinidogaeth ers 40 mlynedd a mwy.

Wednesday 20 May 2009

Llyfryn 4 x 3 modfedd


Miniature Book, originally uploaded by srlott.


Yn cofio'r mwynhad o wneud papur marmor slawer dydd, ac yn meddwl arbrofi unwaith eto.

Small Journal with Endive Book Cloth

Cymaint o bethau gwych ar gael, wedi'u gwneud gan bobl ddawnus a chreadigol.

Tuesday 19 May 2009

Yr Hen Goleg


The old college Aberystwyth, originally uploaded by photos4all36.


Cyfres o luniau gwych yn dangos pensaerniaeth a manylion addurnol yr Hen Goleg yn Aberystwyth wedi'u tynnu gan gydweithiwr imi: ewch i fflickr i weld lluniau 'bara-koukoug'.

Syr Joseph Banks, penddelw yn yr Amgueddfa Brydeinig

Amgueddfa Llandrindod


, originally uploaded by Lilo Lil.

Un o'r amgueddfeydd lleiaf yn y Canolbarth: yn y gerddi drws nesaf i Westy'r Metropole. Peidiwch â cholli'r Sile na Gig, y sampleri, y pethau am y ffynhonnau a'r triniaethau . . . .

Teulu Banks: arddangosfa yn Amgueddfa Llandrindod

Arddangosfa o eitemau yn ymwneud â hanes teulu Banks (Hergest Croft), eu cysylltiadau, etc. Yr un teulu â Joseph Banks y naturiaethwr a'r gwyddonydd. Ond beth am y teitl ymhonnus hwn, sef Above Common Mediocrity: The Banks Family in Radnorshire. Ymlaen tan 31 Mai 2009. 'For over 100 years the Banks family have lived at Hergest Croft, building the house and making a superb garden which is open to the public. Their members include scholars, bankers, lawyers, clergymen, high sheriffs, industrialists and artists and they have served the Border Country well in every generation. This exhibiton is from their family's extensive archive and includes, school reports signed by Thomas Arnold, portraits and letters from Murchison and Salter as well as artefacts from their daily lives'. Amgueddfa Llandrindod (mynediad am ddim os ydych yn byw ym Mhowys, neu os ydych yn blentyn; OAPs 50c; oedolion £1.00).

Dewch drwy'r glwyd i mewn i Gerddi Hergest Croft

Azaleas yng Ngerddi Hergest Croft II

azaleas Gerddi Hergest Croft III

Eluned yng ngerddi Hergest Croft

Yr azaleas yn eu blodau yng ngerddi Hergest Croft, cartref teulu'r Banks (teulu Joseph Banks y naturiaethwr a'r casglwr planhigion). Y lle neisaf yn y byd i gael te neu ginio ysgafn.

Saturday 16 May 2009

Cyngerdd Haf Aelwyd Pantycelyn IV

Cyngerdd Haf Aelwyd Pantycelyn I

Cyngerdd Haf arbennig iawn neithiwr yng Nghanolfan Merched y Wawr yn Aberystwyth. Gwahanol gorau, ensembles ac unigolion o Aelwyd Pantycelyn yn cyflwyno eitemau amrywiol. Yr elw'n mynd tuag at Eisteddfod yr Urdd yng Ngheredigion yn 2010. Arweinyddion: Gwawr Loader, Ffion Haf Jones a Steffan Prys Roberts; unawdydd Alaw Tecwyn sy'n astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion. Dwy gyfeilyddes anhygoel o ddeheuig hefyd, a'r noson dan ofal medrus Llifon J. Ellis. Dros 60 yn y gynulleidfa gan gynnwys gwr a gwraig o Holand; er nad oedden nhw'n deall gair o Gymraeg, dyma uchafbwynt eu gwyliau yng Nghymru, medden nhw. Pob lwc i'r Aelwyd yn Steddfod yr Urdd yng Nghaerdydd!

Friday 15 May 2009

Gugelhupf


Gugelhupf, originally uploaded by Gwenddolen.

Cwningen ddu wyllt


Cwningen ddu wyllt, originally uploaded by Gwenddolen.

Yma ers rhai misoedd bellach.

Daw'r wennol nôl i'w nyth


Daw'r wennol nôl i'w nyth, originally uploaded by Gwenddolen.

Dyma'r wennol sydd yn gwylio'r nyth liw nos. Mae'r cymar yn y nyth yng nghornel chwith y porch. Mae'r gwenoliaid yno ers rhyw wythnos, ac yn ddof iawn. Lawr dros y cae o flaen y ty mae par o farcutiaid yn nythu. . . nyth dipyn fwy o faint nag un y gwenoliaid.

Sianed Jones a Thaliesin

From www.theatre-wales.co.uk/ news/newsdetail
Sianed Jones is working with Henrietta Hale, a former dancer with Diversions, Dance Company of Wales, on this special evening based around the ancient 6th century poems of Taliesin.

Sianed said, “Inspired by the epic singers of Kazakhstan I returned to Wales determined to work with the ancient 6th century poems of Taliesin.

“With a pre-recorded backing track of voices, strings, driving grooves and wild recordings, I sing the poetry, plays the violin, the harp, the harmonium, the bass, in a darkened space surrounded by three screens projecting drawings, photographs, prints, Welsh and English poetic texts and video footage gathered in West Wales.

“I have created a contemporary version of an experience that has the feel of being in the presence of a bardic storyteller, singing the poetry in the darkness by the light of a flickering fire.”

She explained, “Many of the images in the Taliesin poems are elemental fire, light, darkness, water, wind, and the forces of nature. A shaman seeks illumination by going to a dark place, a faery mound, a cave, a well, a lake, a place within or beneath the earth.

“The initial impetus to collaborate with a video maker came from a desire to create a way into the poetry for non-Welsh speakers. Epic singers of all cultures worldwide tell stories that are familiar with their audience, stories that have been heard over and over again. Modern technology is the vehicle to bring 6th century poetry into the present.

“The video footage, the drawings, the prints are not narrative representations of the poems but rather an exploration of the natural world - the refraction of light as the body moves through water, embers of a fire, reflections of reeds dancing in the wind, the curling smoke of a cauldron.

Sianed said that she has recently returned to live in Wales driven by a hiraeth (a longing) to be amongst the landscape of her childhood and a need to hear, speak and work in the Welsh language.

She said through working on Taliesin she has re-connected to her roots and re discovered the beauty and depth of the Welsh Language.

“Hopefully when Taliesin is performed outside Wales and beyond it will give audiences an experience of Welsh culture that is ancient and resonantly now.”

Thursday 14 May 2009

stiwdio crwn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth:


Arts Centre, Aberystwyth Uni, originally uploaded by Vertigogen.

Taliesin Poster


Taliesin Poster, originally uploaded by sianed.jones.

Plaits seaweed 3


plaits seaweed 3, originally uploaded by sianed.jones.

Llun arall o sioe Taliesin Sianed Jones

Seaweed rope


seaweed rope, originally uploaded by sianed.jones.

Rhai o'r lluniau o sioe Taliesin gan Sianed Jones

Wednesday 13 May 2009

Midwyf Taliesin

Perfformiad anhygoel o gerddi'r Taliesin chwedlonol yr wythnos diwethaf gan Sianed Jones: gwisg shaman, llais iasol, ffidl, telyn, harmoniwm, gitâr ynghyd â delweddau ar dair sgrin o Gors Fochno, nofiwr tanddwr, coed, gwallt, etc. Theatr fach gron y stiwdio yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth wedi'i thrydanu gan bresenoldeb Sianed Jones. Y cyfan yn dwyn i gof Ensemble y Silk Road a'r storiwr Ben Haggarty a welais unwaith yn y Llyfrgell Brydeinig, ac nid oedd yn syndod darllen fod Sioned ei hun wedi bod yn gweithio gydag ef a gydag artistiaid a cherddorion o Kazhakhstan. Nifer o gerddi mawr wedi'u dewis: darnau o 'Cad Goddau', y gerdd grefyddol 'Addfwynau Taliesin', fersiwn gwych o 'Canu y Gwynt', a llawer o bethau eraill. Trueni am y taflenni a'r cyfieithiadau. Clip ohoni YMA oddi ar ei gwefan.