O'r Parsel Canol

Sunday 30 August 2009

Llanfihangel Helygen


Llanfihangel Helygen, originally uploaded by Gwenddolen.

Rhwng Llanyre a Chaerfagu ar yr heol gefn.

You can count on us pedants

'Count on us' mewn Saesneg safonol, wrth gwrs. Ac wrth siarad yn ffurfiol mae'r Saeson yn sôn am 'we historians' pan fydd yr ymadrodd ar sefyll ar ei ben ei hun, neu yn oddrych y ferf. Ond ansicrwydd mawr erbyn hyn pan fydd gofyn am wrthrych y ferf, a'r gorgywiro yn troi 'count on us historians' yn 'count on we historians'. Clywais enghraifft debyg i hon ar Radio 4 y diwrnod o'r blaen. Mae rhywun yn gyfarwydd iawn â 'between you and I', enghraift arall o orgywiro, ond mae hyn yn rhywbeth newydd i mi. Yr hen sir Faesyfed eto'n poeri'n ogoneddus yn wyneb pob rheol a safon, fel ar un o gerrig beddau'r ardal: 'Him that was is gone from we; we that is do mourn for he'. Gwr cymharol ifanc yn ei dridegau o ardal Llanfihangel Helygen (yes!) yn cyfeirio at 'strimmer' fel 'him': 'We'll take him out and get him started; Then you can try him'. Swnio mor hyfryd fy mod wedi cytuno i brynu'r teclyn yn y fan a'r lle.

Thursday 20 August 2009

Coop y Waun cyn y newid mawr


coop y waun, originally uploaded by traed mawr.

Marwnadu'r Coop

Y Coop ar y Waun oedd y siop fwyd orau o fewn cyrraedd hawdd i'r Parsel Canol — dewis da o bopeth bob dydd, a digon o bethau Masnach Deg a nwyddau ecogyfeillgar. At hynny, roedd y Post, y cynigion rhad, a digon o le i barcio ac i ailgylchu poteli, plastig (ond nid papur a dillad). Mae Somerfield yn mynd i droi'n Coop erbyn diwedd y flwyddyn, medden nhw, ond yn y cyfamser Coop Penparcau amdani (a'r fferyllydd Coop yn Ffordd y Môr) os ydych chi am gasglu pwyntiau ar y Difi. Roedd fy mhrofiad cyntaf yn y siop newydd ar y Waun (CK aka Nisa) yn ddiflas dros ben — yn wir, yn f'atgoffa o Ddwyrain yr Almaen slawer dydd. Mae rhai o'r staff gwreiddiol yno, yn ymdrechu'n lew i gynnig yr un gwasanaeth cyfeillgar ag o'r blaen ond yn cael eu llesteirio gan yr offer wrth y tills, diffyg barcodes, etc. Nid wyf yn ffan o Morrison's am fod y lle mor anferth a'r cyfan yn cymryd gormod o amser; mae'r Treehouse yn ddrud, ond yn dda ar gyfer cig a llysiau lleol. Ond er imi fod yn siopa yn y Treehouse ers blynyddoedd lawer (pan oedd Mr Frost wrth y llyw, lan ar bwys Cloc y Dref), nid wyf i byth yn cael y teimlad 'mod i'n cael fy ngwerthfawrogi fel cwsmer — tybed a ydy pobl eraill yn teimlo fod hynny'n bwysig? Yr un mwyaf serchog yn y siop yw'r dyn yn y siorts. Ond lan staer, yn y café, mae pawb yn groesawgar ac mae'r bwyd yn wirioneddol dda.

Friday 14 August 2009

Hen eglwys Llanwrtyd

Gyferbyn â'r eglwys hon y mae Mynwent Cwm Irfon lle claddwyd fy mam yn ddiweddar, a chyn hynny fy nhad, fy mam-gu a thad-cu, a llawer o'r hen dylwyth.

Cerddinen

Ar y mynydd mae'r gerddinen

Tua deuddeg Cerddinen o wahanol liwiau ar yr heol heibio i'r capel yn y Parsel ar hyn o bryd — rhai'n oren, rhai'n goch. Casglwyd digon o aeron i wneud jeli i'w fwyta gyda chig (a chaws hefyd). Mae sawl rhywogaeth newydd wedi'u darganfod yng Nghymru yn ddiweddar: Cerddinen Stirton (Sorbus stirtoniana) – clogwyni Craig Breidden, Sir Drefaldwyn yw'r unig le yn y byd i weld y goeden hon; Cerddinen Llangollen (Sorbus cuneifolia) - coeden brin sydd ond i'w gweld ar glogwyni Mynydd Eglwyseg, Sir Ddinbych sy'n gartref i tua 240 o blanhigion; Y Gerddinen Gymreig (Sorbus cambrensis) – i'w gweld ym Mannau Brycheiniog i'r gorllewin o'r Fenni a Cherddinen Dyffryn Llanddewi Nant Hoddni (Sorbus stenophylla) – dwy rywogaeth o Gymru sy'n perthyn i'w gilydd yn agos; Cerddinen Doward (Sorbus eminentiformis) i'w gweld yn Nyffryn Gwy yng Nghymru a Lloegr yn unig; Cerddinen Motley (Sorbus x motleyi) – croesiad newydd sy'n tyfu ar un safle ger Merthyr Tudful, lle mae dwy goeden ifanc wedi'u darganfod. Ceir manylion llawnach yma