O'r Parsel Canol

Friday 24 September 2010

Lynx


Lynx, originally uploaded by pink_pixie21.

Missing lynx

Yn ofnadwy o drist na fyddaf yn medru ymweld eto â'm hoff anifeiliaid gwyllt, sef y ddau frawd sy'n byw yn yr Anifeilfa. Dau frawd, dau lynx, Amis ac Amiloun y Borth, sydd wedi bod gyda'i gilydd drwy gydol eu hoes, ac wedi symud sawl gwaith o le i le. . . . gobeithio'n wir y byddant yn cael cartref ynghyd i ddiweddu eu hoes yng nghwmni ei gilydd. Mae'r anifeiliaid wastad wedi edrych yn ddigon hapus eu byd yn y Borth, rhaid dweud, a gresyn o beth fod y perchnogion nawr yn gorfod eu hildio (ynghyd â llewpart a chreaduriaid eraill) am nad oes ganddynt 'y gwaith papur' priodol. Mae rhai (Hetherington, Lord & Jacobs) yn dadlau mai lyncs yw'r llewyn yn y gerdd Pais Dinogad (?7g) sy'n ffitio gyda'r esgyrn lyncs o'r 6g a ddarganfuwyd ger Rhaeadr Derwennydd ar ochr ddeheuol Derwentwater yn Ardal y Llynnoedd. Mae rhai hefyd yn dweud y dylid ailgyflwyno Lynx lynx i ucheldir Prydain, fel sydd wedi cael ei wneud yn yr Alpau, ym mynyddoedd yr Harz, y Jura, ac yn y blaen. Manylion yn yn y Journal of Quaternary Science, 2005, via R. Geraint Gruffydd (pwy arall?).

Thursday 9 September 2010

Llyfr Aneirin yn Aberystwyth

Llyfr Aneirin yn dod i'r Llyfrgell Genedlaethol. Erbyn hyn does neb o'r werin datws yn cael byseddu'r hen lawysgrifau, ond slawer dydd cyn bod sôn am gadwraeth, roedd pethau'n go wahanol. Clywais y stori flynyddoedd lawer yn ôl (gan ysgolhaig dibynadwy dros ben) fod Llyfr Aneirin wedi 'llithro lawr rhwng y wal a'r radiator' yn y llyfrgell yng Nghaerdydd, yn wir, fod y llawysgrif wedi bod ar goll am gyfnod go lew. A sôn am lawysgrifau, gwelais ganolfan siopa newydd taci Caerfyrddin ba ddiwrnod, gydag Afallennau Myrddin wedi'u sgrifennu yn union fel yn Llyfr Du Caerfyrddin ond ganwaith y maint! Yn edrych yn eithaf da, ond mae hiraeth am yr hen dderwen . . .

Saturday 4 September 2010

Ein car cyntaf: fan Austin A35


Austin A35 van, originally uploaded by classic vehicles.

Gwych, gwych, gwych.

Yay! Hen rif sir Faesyfed

Llawenydd mawr, a rhywbeth i dynnu dwr o ddannedd Tredelyn, gobeithio. Wedi cael car ail-law newydd yn Forge, Ffos-y-ffin, a ffeindio mai rhif MFO, sef hen rif sir Faesyfed slawer dydd, sydd arno. Roedd y car cyntaf a oedd gennym fel teulu (fan werdd A35 fel yr un yn y llun uchod) yn rhif FO o Norton's. Yna AFO, DFO. . . . . nes i bob dim newid gyda'r rhifau. Sir Frycheiniog yn EU os cofiaf yn iawn. Rwy'n gweld Dr Edwards, Meddygfa'r Llan, yn gyrru car mawr â rhif isel -- rhywbeth fel EC 10. Roedd gennyf innau feic modur 'rhif isel' slawer dydd, sef BAW 9L (rhif swydd Amwythig). Sda fi gynnig i rifau personol ond rwy'n cymeradwyo rhifau tiriogaethol.

Darlith ar Ddafydd ap Gwilym 21 Hydref

Mae Cymdeithas Canolfan Dafydd ap Gwilym yn cynnal darlith gan yr Athro Dafydd Johnston ar 21 Hydref, 2010 am 7.30 yng Nghapel Horeb, Penrhyn-coch. Manylion cyswllt: Dr Tedi Millward, 44 Ger-y-llan, Penrhyn-coch. Dafydd a oedd yn gyfrifol am arwain tim o ysgolheigion ifainc (gan gynnwys Dr Huw Meirion Edwards, Llandre) i roi ynghyd golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Mae hynny ar y we (www.dafyddapgwilym.net) gyda chyfrol hefyd a lansiwyd yn Steddfod Blaenau Gwent a'r Cymoedd, Awst 2010. Gobeithio y daw rhywbeth o'r Ganolfan arfaethedig i goffáu ein bardd lleol.

Y dorf, Capel Horeb, Penrhyn-coch

Darlith arall a gynhaliwyd yn yr un lle yn 2005, gyda'r Athro R. Geraint Gruffydd yn annerch Cymdeithas Lyfrau Ceredigion ac yn trafod Dafydd ap Gwilym. Dr Jenny Day a Dr Huw Meirion Edwards yn y rhes flaen!

Cofeb Dafydd ap Gwilym, Brogynin, Penrhyn-coch

Ar ei hôl hi

Simon Agar sy'n byw ym Mangor yn cadw blogiau difyr ac yn sgrifennu llawer o stwff diddorol am ieithoedd o bob math. Wedi dod ar draws ei safle wrth chwilio am rywbeth hollol wahanol.