O'r Parsel Canol

Sunday 30 May 2010

Lili Maesyfed


stanner rocks, originally uploaded by Dunfield House.

Un o'r blogwyr difyrraf yng Nghymru, Tredelyn, yn tynnu sylw at berthynas agos i'r Lloydia Serotina ( Lili'r Wyddfa), sef Lili Maesyfed, Gagea bohemica, sy'n tyfu yn y cyffiniau hyn.

Hoffwn wybod enw iawn Tredelyn (aka 'Old Radnor') a aeth i'r un ysgol â mi.

Saturday 29 May 2010

Llannerchaeron: rownd y cefn I


Llannerchaeron, originally uploaded by Gwenddolen.

Llannerchaeron: rownd y cefn II


Llannerchaeron, originally uploaded by Gwenddolen.

Friday 28 May 2010

Sillavu Llannerchaeron

Llannerchaeron (neu Llannerch Aeron) sy'n gywir, nid Llanerchaeron, y sillafiad a ddefnyddir gan nifer o gyrff fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Urdd. Mae Llan o'i ddilyn gan un sillaf arall sy'n dechrau â llafariad (yma'r ansoddair erch 'brith, S. dappled', fwy na thebyg) yn dyblu'r -n-; gwelir yr un peth yn ffurf luosog llan, sef llannau. Beth yw lluosog llannerch felly? Wel, mae sawl un, ac un ohonynt yw llanerchau ag un -n-gan fod acen y gair nawr ar y goben. Mae hyn fel carreg ond caregog. Ond gyda Llannerchaeron, mae rhagacen gref ar y sillaf gyntaf, felly -nn- amdani, fel yn y rhan fwyaf o'r hen ffurfiau a welir yn Archif Melville Richards.

Monday 24 May 2010

Gair yr wythnos: llewitydd 'midwife'

Yn ôl f'wncwl yn Llanwrtyd, roedd un o'm hynafiaid yn fydwraig (sef midwidd), a hithe'n dwyn yr un enw â mi. Ond y gair a ddefnyddiodd f'wncwl oedd llewitydd, gair na chlywais gan neb arall. Ni wn beth yw'r tarddiad. Bid a fod am y gair a'i darddiad, roedd Marged Waun Coli yn gwasanaethu'r fro, ac roedd ei 'phac' wastad yn barod wrth y drws rhag ofn y deuai galwad i fynd i gynorthwyo. Rwy'n teimlo'n falch iawn ohoni.

Glyn-y-groes, 2010


Glyn-y-groes, 2010, originally uploaded by Collen.

Diwrnod pleserus Ddydd Sadwrn ym Mhafiliwn Llangollen ac yna ym mynachlog Glyn-y-groes: cynhadledd ar waith Guto'r Glyn wedi'i threfnu gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Yn serennu yno roedd Bleddyn Owen Huws o'r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a oedd yn trafod grym y gair — yn enwedig y cywyddau — i wella cleifion, i fod o werth therapiwtig mewn byd pan oed byw heibio i'r hanner cant yn destun rhyfeddod. Ond rwy'n siwr fod yr uchelwyr a ganai Guto iddynt yn fwy tebygol o fyw'n hwy na hynny a hwythau'n mwynhau safon byw gwell na'r cyffredin. Trafododd Barry Lewis yrfa Guto, a chyfeirio at rai o'r problemau sylfaenol — pa Lyn sydd yn ei enw, er enghraifft (Ceiriog, Dyfrdwy, Genau'r Glyn?), a phryd yn union y ganwyd ef. Perfformiad nodedig wedyn gan Richard Suggett a siaradodd am dai'r uchelwyr, eu pensaernïaeth a'u hawyrgylch, ac am y profiad o fod wrth y bwrdd tal adeg gwledd.Yn y prynhawn, roedd Ann Parry Owen, arweinydd prosiect Guto'r Glyn, yn trafod cerddi i noddwyr lleol (Bryncunallt, Pengwern, etc.) oll a'u hachau'n gweu drwy'i gilydd. Nid oeddwn yn gwybod cyn iddi ei ddweud fod Trefor yn dod o Tref + yr enw personol Awr. Eurig Salesbury wedyn yn trafod cerddi Guto i ddisgynyddion Ieuan Gethin -- pobl fel Dafydd o Abertanad, ac Eurig ei hun! Ar ddiwedd y prynhawn, Siân Rees o Gadw yn manylu ar y fynachlog yng Nglyn y Groes lle y bu Guto yn ei henaint. 'Aberystwyth ar ymweliad â Llangollen' o ran y gynulleidfa (o leiaf 30 ohonynt), er bod yno rai pobl leol, ac ambell un o Gaerdydd a Bangor.

Glyn y Groes c. 1890-1900

O gasgliad printiau Photocrom yn Library of Congress.

Sunday 16 May 2010

'Pentre Almaenig' Epynt


German-Village-1. Epynt Ranges, originally uploaded by Rob-33.

Saturday 15 May 2010

Golau'r Epynt T. James Jones ac Euros Lewis

Golau'r Epynt V


Golau'r Epynt V, originally uploaded by Gwenddolen.

Golau'r Epynt Glyn Powell


Golau'r Epynt Glyn Powell, originally uploaded by Gwenddolen.

Golau'r Epynt

O'r diwedd cefais weld y cynhyrchiad cyffrous hwn gan Gwmni Drama Ffermwyr Ifainc Brycheiniog. Cafwyd un perfformiad yn barod yn Aberdyfi pan enillodd y cwmni yn y gystadleuaeth genedlaethol, ac fe gollais y cynhyrchiad ym Mhontsenni wedyn. Canslwyd y perfformiad a oedd i fod yn Llanfair (yng Nghanolfan Wyeside), ond neithiwr roedd y Guildhall, Aberhonddu dan ei sang, a'r awyrgylch yn wefreiddiol. Llywyddwyd y noson gan Mr Glyn Powell o Bontsenni a oedd fel petai'n nabod pawb yn y gynulleidfa: deinamo o ddyn. Yno hefyd roedd Euros Lewis, un o awduron y ddrama a gafodd ef ei godi yn Llanwrtyd, a dyna pam roedd y sgript yn cynnwys rhai o eiriau'r dafodiaith leol (los am ferch, Saes. lass, etc.). Roedd y darpar archdderwydd, T. James Jones (Jim Parc Nest), yno hefyd yn darllen o'i awdl Y Ffin a enillodd y Gadair yn Steddfod Genedlaethol 2007. Dyma gerdd, fel y ddrama, a ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau 1940 pan feddiannwyd Epynt gan y fyddin a throi'r trigolion allan o'u ffermydd. Roedd Y Parchedig Herbert Hughes hefyd yn y gynulleidfa yn ôl y sôn: mae ganddo ddau lyfr pwysig ar hanes Epynt, ynghyd â llyfr newydd sy'n ddetholiad o bapurau'r amaethwr a'r hynafiaethydd, Evan Jones, Ty'n-pant, Llanwrtyd. Cefais noson wrth fy modd, a mwynhau'r daith dros Epynt y ddwy ffordd yng nghwmni f'ewythr John, a thair o Gymraesau Llanwrtyd, Luned, Delyth a Betty. Cefais gip ar hen ddisgybl imi, B. Siân Reeves, awdur y nofel Nest. Mae hi'n byw yn Aberhonddu ac yn gwneud llawer dros y Gymraeg yn y cyffiniau.

Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Epynt ym mis Awst i weld cynhyrchiad Mike Pearson o ddrama Aeschylus, The Persians sydd yn mynd i gael ei rhoi ymlaen gan y Theatr Genedlaethol ynghanol y maes tanio, yn y pentref 'Almaenig' a ddefnyddir i hyfforddi milwyr i wynebu rhai o'r sefyllfaoedd peryclaf yn y byd (fel yn Stormbreaker, y ffilm o lyfr Anthony Horowitz). Yn ôl yr wybodaeth, 'the audience will be bussed to the performance site over 10 days in August 2010'. Mwy i ddilyn.

Sunday 2 May 2010

Go Penri!

Mae Penri James wedi gweithio'n anhygoel o galed yng Ngheredigion, ei fro enedigol: mae'n deall pryderon yr amaethwyr, y busnesau bach, y rheini sy'n dibynnu ar y diwydiant ymwelwyr, a'r anghenion yn y gwasanaethau iechyd. Ac yntau'n dad i dri ac yn gweithio yn y Brifysgol mae ganddo wybodaeth fanwl o'r problemau sy'n wynebu'r byd addysg. Y mae'r Parsel yn annog ei ddarllenwyr selog i droi allan yn eu miloedd Ddydd Iau i hala Penri i San Steffan.

Edrych o brif fynedfa'r Hen Goleg, Aberystwyth

Yr Hen Goleg: yma o hyd

Da oedd gweld adeilad hardd yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar raglen nodwedd Wedi 7 Nos Fercher 28 Ebrill, a'r hanesydd Dr Russell Davies a John Hefin yn dweud ychydig am ei hanes fel Gwesty'r Castell yn y 19g, a gogoneddau'r bensaernïaeth gan Seddon ac eraill. Yn ddiweddar rhoddodd y Cambrian News gamargraff ar led fod y weinyddiaeth a'r Adran Gymraeg yn mynd oddi yno. Nid yw hyn yn wir: mae'r Adran Addysg yn symud maes o law i Ben-bryn (ar y campws uchaf), ac mae adain gyhoeddi'r Adran wedi mynd yn barod i ran o Blas Gogerddan, sy'n rhan o'r Brifysgol erbyn hyn. Ond yn yr Hen Goleg o hyd y mae'r Adran Addysg nes y bydd rhan o Ben-bryn wedi'i haddasu. A rhywbeth at y dyfodol canolig/pell yw symud y Prifathro, y Cofrestrydd, y Swyddfa Academaidd etc. i'r campws uchaf: dywedir mai i Bantycelyn y bydd y weinyddiaeth yn symud, a hefyd o bosibl yr Adran Gymraeg. Ond cyn i ddim o hynny ddigwydd, bydd gofyn meddwl am 'Pantycelyn newydd', ac nid yw hynny'n cael ei godi eto. Mae cache o luniau gwych o'r Hen Goleg gan bara-koukoug ac eraill ar Flickr.