O'r Parsel Canol

Tuesday 19 October 2010

Caeffynnon, Llanfair

Monday 18 October 2010

Greater Crested Tredelyn: a sighting?

Ai Tredelyn ei hun a welwyd yn Nghaffi'r Mecca gyda'i gyfaill ba ddiwrnod? Yn aros efallai am fws Roy Brown i'w gyrchu nôl i wareiddiad Bro Hyfaidd? Jest yn gofyn. Syllais i fyw ei lygaid, ond . . . . dim. Tybed a lonnwyd ei galon i weld car FO (ac nid Foreign Office) yn ymddangos yn y gyfres newydd o Spooks?

Yr Iaith ar Waith (rhif 99)

Y gystrawen yn mynd i gyfeiriadau diddorol:
'Mae Myrddin ap Dafydd yn edrych yn debyg iawn i Rowan Atlkinson y dyddiau 'ma'.
'Mae fe so ddim yn'.

Trawsosod yr wythnos ym môn y clawdd

Clywyd pysewnoth gan frodor o'r Parsel ddoe. Da gweld arwyddion swyddogol ffor' hyn fod Torri Sietyn ar waith. O'r Saesneg setting, nid fel y mae rhai yn honni, o shooting neu shut-in.

Darlith ar Ddafydd ap Gwilym 21 Hydref

Mae Cymdeithas Canolfan Dafydd ap Gwilym yn cynnal darlith gan yr Athro Dafydd Johnston ar 21 Hydref, 2010 am 7.30 yng Nghapel Horeb, Penrhyn-coch. Manylion cyswllt: Dr Tedi Millward, 44 Ger-y-llan, Penrhyn-coch. Dafydd a oedd yn gyfrifol am arwain tim o ysgolheigion ifainc (gan gynnwys Dr Huw Meirion Edwards, Llandre) i roi ynghyd golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Mae hynny ar y we (www.dafyddapgwilym.net) gyda chyfrol hefyd a lansiwyd yn Steddfod Blaenau Gwent a'r Cymoedd, Awst 2010. Gobeithio y daw rhywbeth o'r Ganolfan arfaethedig i goffáu ein bardd lleol.

Friday 15 October 2010

eleffant Kakiemon


British Museum, London, originally uploaded by Sheepdog Rex.

Fy hoff lais

Fy hoff lais yn y byd ar hyn o bryd yw'r swynol Neil MacGregor, Pennaeth yr Amgueddfa Brydeinig, sy'n cyflwyno Hanes y Byd drwy Gant o Wrthrychau. Jest mor wych ym mhob ffordd. Fe ei hun sydd wedi ysgrifennu'r cwbl, ac mae hynny i'w glywed yn ei gyflwyniad di-feth. Y rhaglen am yr eleffantod Kakiemon borselan oedd yr orau hyd yma, gyda disgynnydd y gwneuthurwr yn Siapan a Miranda Rock, disgynnydd y meilord o Loegr, John Iarll Caer-wysg, a'i prynodd yn ôl yn y 17g. Cwbl gyfareddol. Update: newydd glywed ei fod wedi cael yr O.M. Da iawn a haeddiannol -- diolch am synnwyr.

O ran lleisiau eraill, mae'n anodd curo Alan Rickman, wrth gwrs. Mae'n debyg mai Mariella Frostrup yw dewis lais y dynion ond mae hi'n swnio'n rhyfedd iawn ar adegau. A phwy sydd a'r llais Cymraeg gorau y dyddiau hyn, a wy'ys?