O'r Parsel Canol

Monday 27 December 2010

Yr Hen Gopenhagen

Nid gwn, fel yn y stori yn llyfr T. Llew Jones Lleuad yn Olau, ond rhywbeth sy'n gwneud i'r hen feic arferol fynd fel bom, o leiaf dyna'r addewid YMA. Ers dwy flynedd a mwy rwy'n defnyddio e-feic Kalkhoff Agattu ac yn meddwl (gyda llawer iawn o berchnogion) mai dyma'r darn gorau o kit imi ei gael erioed. Cerdded fu fy hanes yn ddiweddar oherwydd yr eira mawr, ac mae hynny, ynghyd â lot o waith, a thrafferthion mawr gyda BT, wedi fy nghadw oddi ar y tonfeddi yn ddiweddar.

Thursday 23 December 2010

Milk Bar Blues


National Milk Bar, originally uploaded by aberystwyth-online.

Milk Bar Blues

A minnau'n byw yn Aberystwyth ers blynydde, ryw'n meddwl mai rhyw dair gwaith ar y mwyaf y bûm i yno. Am rai blynyddoedd, doedd dim atyniad beth bynnag gan fy mod yn byw yn yr un stryd, sef Stryd y Gorfforaeth, lle handi iawn ar gyfer Llyfrgell y Dref, yr Amgueddfa, yr off-licence, a dewis o gapeli a siopau. Felly pa hawl sydd gen i nawr i hiraethu am yr hen le sydd newydd gau'i ddrysau am y tro olaf un? Wel mae'n rhan o'm plentyndod, o'r cyfnod pan ddeuwn i Aberystwyth gyda Mam-gu a Thad-cu am wythnos bob haf ac yn aros naill yn Nant-mân, yn Dewina (North Parade), Llwyn -y-gog, neu Castle Cottage (a ddaeth ymhen amser yn gartref i'r Athro Gwyn Jones, 'yr ail gainc', a'i briod Mair). Yn y dyddiau dedwydd hynny, roedd y Milk Bar yn fagnet i ffermwyr a phobl cefn-gwlad fel fy nhylwyth i — y lluniau du a gwyn o dda graenus rownd y welydd yn gysur, ac yn wir, yr holl le fel rhyw barlwr godro modern a glân. Mae gen i gof hyd heddiw o'r hufen ia bendigedig PLUS hufen yn rhewi'n gapan gwyn ar ei ben. Hyn oll cyn darganfod colesterol. Roedd y gwyliau'n well nag unrhyw wyliau — y peth gorau yn Aberystwyth y pryd hynny oedd y shelter a'r peiriant a oedd yn 'argraffu' enw rhywun ar coler o dun, y King's Hall (lawr staer gyda'r peiriannau grab), y Toastrack a oedd yn rhedeg ar hyd y prom, y meinciau cynffonog (sy'n dal yno), a'r pwll padlo. Doedd 'nhad-cu ddim fel 'ny am wyliau: erbyn Dydd Mercher roedd yn benwan eisiau mynd tua thref i Lanwrtyd ond yn gorfod aros er mwyn i mam-gu gael hoe. Roedd Aberystwyth slawer dydd yn nefoedd i mi, ac rown i'n cael crwydro a mynd lle y mynnwn heb neb yn fy mygwth na'm plagio. Rwy'n cael ias a theimlo 'mod i yr un byd o hyd wrth weld Eddleston House (Queen's Rd) a chofio'r Bad Achub ar bwys, neu wrth imi rowndio heibio'r White Horse Bar a chlywed y gwylanod yn gweiddi.