O'r Parsel Canol

Sunday 27 March 2011

Gair y dydd: braenaru

Y gair yw braenaru 'aredig neu droi tir a'i baratoi ar gyfer ei hau; gadael tir wedi'i droi yn ddigynnyrch dros gyfnod er mwyn difa chwyn a meddalu'r pridd', etc. Sylwaf fod tuedd ar droed — ac nid ymhlith yr ifainc yn unig — i droi hyn yn blaenaru. Hawdd deall pam y mae hyn yn digwydd gyda'r hen dermau amaethyddol fel braenar yn mynd yn llai cyfarwydd. Ond hefyd mae rhyw synnwyr yn peri cysylltu'r ferf â'r gair blaen sydd mor gyffredin, ac mae -l- ac -r- yn hen seiniau digon agos. Roedd 'GIG Bro Morgannwg yn Blaenaru Unwaith Eto' yn ôl eu hunanfroliant yn 2007 gan ddilyn esiampl un o Arolygwyr Estyn yn 2005 efallai: 'Dengys yr ysgol flaengaredd amlwg gyda blaenoriaethau cenedlaethol. Maent yn blaenaru’r tir ar gyfer y cam sylfaen'. Rhywbeth i'w gynnwys dan B yn rhifyn nesaf Geiriadur Prifysgol Cymru efallai?

Y tro nesaf yng Nghornel y Pedant: amdan a phethau hynafol eraill a gollfernir ar gam.

Saturday 26 March 2011

A'i wgus lygaid yn tanbeidio

Yn hedfan yn dawel drwy Banc y Darren ar y beic ac yn dod o fewn anadliad i foda cysglyd ar bostyn wrth ochr yr heol. Wedi meddwl am funud mai rhywbeth wedi'i gerfio oedd yno —rhywbeth tebyg i'r cadno (ffug) ar ben postyn giât yng Nghefn-llwyd. Ac yna, o fewn tair munud, gwelais grychydd yn edrych allan dros Gwm Peithyll o frig y goeden uchaf.

Sunday 13 March 2011

Jenkin Batman

Mae fy hoff flogiedydd wedi taro ar Jenkin Batman yn yr achau canoloesol. Mae ganddo hefyd lawer o sylwadau call, yn ôl ei arfer, am enwau Cymraeg hen sir Faesyfed, ac yntau wedi bod yn pori yn y Transactions of the Radnorshire Society sydd bellach ar-lein. A wyf yn mynd i gadw'r copïau caled — sy'n cymryd lan silff gyfan yn y parlwr? Wel odw, siwr iawn.

Yr hyn a welais ar y wâc

Un felin wynt (a godwyd yn ddiweddar gan gymydog ecogar) yn troelli'n braf yn y gwynt sy'n chwythu lan drwy'r cwm. Dau gymydog yn paratoi safle hen dyddyn gogyfer â chodi tyddyn 'gwyrdd' newydd o hen ddeunyddiau. Bydd y welydd yn cael eu leinio â gwlân. Tri phren afalau newydd yng ngardd gefn cymydog sy'n 90 oed. Gweld i'r pedwar cyfeiriad o dop y bryniau: allan heibio i felinau Mynydd Gorddu draw i Garn Fadrun ac Enlli, lawr i felinau'r Mynydd Bach, yn groes i felinau Bwlch Nantyrarian, ac yn ôl dros Barc y Llyn a Phen Dinas. Pum barcud, chwe cheffyl, saith fferm.

Friday 11 March 2011

Yukimi a Mike yn Japan

Aelodau o'r teulu yn ddiogel yn Tokyo, diolch i'r drefn — roedden nhw a'r ddau fachgen i gyd ar wahân i'w gilydd pan ddigwyddodd y daeargryn. Mike yn gorfod aros yn ei waith yn y Llysgenhadaeth am y tro.

Sunday 6 March 2011

Cant oed

Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o Gylch Cyfraith Hywel Dda ddoe i ddathlu canfed pen blwydd Yr Athro Dafydd Jenkins ar Fawrth 1af. Cyflwynodd nifer o bobl bytiau byr o ryw 12 munud yr un ar wahanol bynciau'n ymwneud â'r gyfraith ganoloesol: D.B. Walters, Christine James (a oedd yn gwbl wych ac yn mynegi orau y parch enfawr sydd i DJ), Sara Elin Roberts, Huw Pryce (difyr iawn ar J.E. Lloyd a'r Cyfreithiau), Thomas Charles-Edwards, Paul Russell, Morfydd E. Owen, a'r newyddian Noel Cox, Athro'r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cawsom ein hatgoffa gan lythyr a ddarllenwyd oddi wrth Dafydd Wigley ac Andrew Green fod Dafydd Jenkins wedi'i eni yn y flwyddyn y gosodwyd carreg sylfaen y Llyfrgell Genedlaethol.

Thursday 3 March 2011

Nofel newydd Mihangel Morgan

Newydd ddod o lansiad nofel y mis, nofel newydd Mihangel Morgan, Pantglas (Y Lolfa, tt. 231) gyda lluniau gan Ruth Jên. Roedd y detholiad o ddarnau a ddarllenwyd mas gan Jeremy Turner, Arad Goch (yn nhafodiaith Morgannwg) yn argoeli'n dda iawn. Mwynhaodd Mihangel sgrifennu'r nofel hon yn fawr iawn: roedd ei hen dad-cu a'i hen fam-gu wedi priodi yn Llanwddyn yn 1886 ac mae copi o'u tystysgrif briodas ar d. 249. Mae Mihangel yn darlithio ar lenyddiaeth fodern a llên gwerin yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn dysgu ysgrifennu creadigol. Trysor cenedlaethol os bu un erioed. Dyma'i ddeunawfed gyfrol greadigol, a'i wythfed nofel.

Y diweddaraf (6 Mawrth): wedi cael blas anghyffredin ar ddeialog y penodau cyntaf, yn enwedig y sgyrsiau rhwngct y Canon hirwyntog (o'r gogledd) a'r gweinitog, Pantglas.