O'r Parsel Canol

Sunday 23 January 2011

Gwarffynnon

Cymdogion newydd ddarganfod carreg fedd (a ailddefnyddiwyd fel carreg ddrws) ar eu tir. Ann Jenkins a fu farw 1847, yn 17 mlwydd oed, yn ferch i John ac Elizabeth Jenkins, Gwarffynnon. Braidd yn bell o'r Gwarffynnons niferus sydd ymhellach i'r de o'r Parsel Canol — yn Llanrhystud, Silian, Cilcennin, etc. Felly mae hyn yn dipyn o ddirgelwch. A oes rhywun yn gwybod mwy amdani, tybed?

Saturday 22 January 2011

Llopanau lliwus

Jest y peth ar gyfer plentyn bach (sydd ddim eto wedi dysgu cerdded). Braidd yn beryglus i'r plentyn hyn ar y staer, neu'r henoed (pwy sy'n cofio'r bwts zip-up ffelt brown (neu tartan) roedd Tad-cu yn eu gwisgo?). Mae patrwm ar gael yma

Tuesday 18 January 2011

Enamel/Email Riess


, originally uploaded by crl!.

Friday 14 January 2011

Enamel a llin

St. Jude's Fabrics Llawer o'r deunyddiau hyn wedi'u cynllunio gan Angie Lewin sy'n gyd berchen ar y cwmni. Mae ei notebooks del ar werth yn Amgueddfa Ceredigion (braidd yn ddrud, ond del iawn). Gwelaf fod cwmni ancient industries hefyd yn cadw ei chynnyrch hi. Mae'r cwmni hwnnw yn delio yn yr un math o gynnyrch 'drud-i-bara-oes' â'r cwmni yn Ironbridge Objects of Use sydd yn ei dro yn dynwared Manufactum es gibt sie noch, die guten Dinge. Mae nhw i gyd wedi darganfod cwmni Riess yn Awstria a'u cynnyrch enamel, trwm. Mae gen i gof plentyn o stên enamel a handlen a'i llond o de yn cael ei chario allan i'r cae gwair, ac ambell waith lawr i'r cwt mawn lle roedd trempyn yn byw pan oedd ef yn y cyffiniau yn torri drêns (Fearis oedd ei enw, enw Gwyddeleg neu Aeleg yn cael ei ynganu'n Ffarish). Dyna beth hynod yw'r cof. I'r fferm hefyd y deuai trafeiliwr Iddewig, Israel Goodman (wedi symud lan o Abertawe), a'i ges yn llawn o fotymau a rhubanau a thrugareddau nad oedd modd cael gafael arnynt yn unman arall. Tipyn o bopeth gydag ef yn ôl y sôn. Ac yna'r Sioni Wyniwns, a'r dyn afalau a'r dyn brethyn (hwnnw o Lanidloes) . . .

Wednesday 12 January 2011

Haiti: Flwyddyn yn Ddiweddarach : Oxfam GB

Haiti: Flwyddyn yn ddiweddarach — lluniau : Oxfam GB

Wednesday 5 January 2011

Fel glaswelltyn

Clywed ddoe am farwolaeth arall, sef y Canon A.M. (Donald) Allchin, gwr a wnaeth gymaint i ddod â llenyddiaeth Gristnogol Cymru i sylw'r byd — gyda Patrick Thomas (sgrifennu gwych) ac Oliver Davies. Ysgrifennodd yn ddeallus ac yn swynol am feirdd yr Oesoedd Canol, am Ann Griffiths (ef oedd yn ei dehongli orau y tu allan i Gymru), am Wenallt a nifer o lenorion eraill. Ni chwrddais ag ef erioed ond roedd fy mam yng nghyfraith wedi cwrdd ag ef mewn achlysur rywdro yn esgobaeth Caer-gaint. Ar ddiwedd 2010 bu farw Meirion Pennar annwyl a diymhongar: nid oeddwn yn ei nabod yn dda, ond bu ef a minnau yn yr un swydd â'n gilydd yn Iwerddon am sbel. Meirion Pennar oedd un o arloeswyr ffeminyddiaeth Gymraeg, ac fe ysgrifennodd draethawd ymchwil ar ferched yr Oesoedd Canol pan oedd yn astudio yn Rhydychen. Roedd yn annwyl iawn gan bawb.

Llun gan Mr.Guest 1814


Guest 1814, originally uploaded by Gwenddolen.

Nid wyf yn gallu esbonio beth sy'n apelio ataf gymaint yn y lluniau archaeolegol hyn gan Mr Thomas Robert Guest o Gaersallog (mae nifer ohonynt yn yr amgueddfa yno). Mae rhagor amdano ar safle'r Tate
Mae Mary Lloyd-Jones yn gwneud lluniau gwell nag erioed o'r blaen, rwy'n meddwl, ac mae'r cyfuniadau o ysgrifen, mapiau, tirlun, etc. hefyd yn apelio'n fawr, a'r lliwiau Indiaidd arferol, wrth gwrs. Mae un o'r lluniau sy'n cynnwys darn o farddoniaeth T.H. Parry-Williams isod.

Mary Lloyd-Jones


Mary Lloyd-Jones, originally uploaded by Gwenddolen.

Saturday 1 January 2011

Diwedd cyfnod

Diwrnod cyntaf 2011, ac yn meddwl nôl ddeugain mlynedd i 1971, y flwyddyn y cwrddais â'r ysgolhaig Rachel Bromwich wyneb yn wyneb am y tro cyntaf, a hynny yn Selwyn Gardens, Grange Road, Caer-grawnt, pan oeddwn yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Roeddwn yn ystyried newid i wneud rhan II Anglo-Saxon, Norse and Celtic, a bûm yn trafod y posibiliadau gyda hi yn ei chartref ar ôl i ffrind i mi — Bentley Mathias, yn Peterhouse (cefnder i'r hanesydd Angela John) os cofiaf yn iawn — fy rhoi i mewn cysylltiad â hi. O Fedi 1971 ymlaen bûm yn astudio Hen Wyddeleg a Chymraeg Canol gyda hi. Symudodd i fyw i Orchard Street, lle roedd hi'n gwneud peth o'i dysgu (roedd Donald Meek ac eraill yn y dosbarth). Roedd sawl cyfaill imi â diddordeb mewn pethau Celtaidd — heb eu bod yn astudio'r pwnc — ffrindiau megis Steve Hewitt a Deri Thomas, ac roedd hi'n eu croesawu hwythau, ac aelodau Cymdeithas y Mabinogi. Cofiaf un tro fod Gwenael le Duc (m. 2006) o Lydaw wedi dod i ymweld (roedd ef wedi bod yn assistant ysgol yn Nghanolbarth Cymru pan oeddwn yn y chweched), a ninnau'n dau'n gwneud ein pererindod lawr i dy Rachel Bromwich. Trefnodd imi ymweld â'i mab a'i deulu yn Nulyn pan oeddwn ar gwrs yno yn haf 1972, ac yn yr un flwyddyn, i fynd gyda hi i'r School of Tropical Medicine a Hygiene yn Llundain i glywed un o ddarlithoedd y Cymmrodorion. Cofiaf y daith ar y trên — roedd hi wedi prynu'r tocyn imi yn barod pan gyrhaeddais yr orsaf — ac roedden ni'n dwy yn gwisgo dillad yr un lliw. Sgert hir a wneuthum fy hun oedd amdanaf, gyda phatrwm anifeilaidd canoloesol glas a gwyrdd o ddefnydd Laura Ashley. Mae'r sgert bellach yn glustog yn y gwaith. Y diwrnod hwnnw gwelais am y tro cyntaf Idris Foster, a hefyd Morfydd Owen a oedd ar y pryd yn dysgu yn y brifysgol yng Nghaerdydd. Rwy'n meddwl mai Simon Evans oedd yn traethu y diwrnod hwnnw, ond ni allaf fod yn siwr o hynny.

Ddoe cynhaliwyd angladd Rachel Bromwich (a fu farw ar 15 Rhagfyr yn 95 oed) — yn Nhy'r Crynwyr ym Mhenparcau, ac yna yn yr Amlosgfa yn Llancynfelyn, dafliad carreg o Blas Cwmcynfelyn lle treuliodd ei blynyddoedd olaf. Teyrnged gan Meic Stephens yn yr Independent. Nid oedd trwy wybod i mi beth bynnag yn ddisgybl i Syr Idris Foster fel y dywedir yn yr erthygl, ond yn gyfaill iddo ac yn gymydog. Ni wyddwn tan yn ddiweddar iawn fod Syr Idris Foster wedi gweithio yn Intelligence yn ystod y Rhyfel.