O'r Parsel Canol

Thursday 24 February 2011

Maes Lowri Aberystwyth


Maes Lowri, originally uploaded by bara-koukoug.

Edrych dros y balwstrad: Llyfrgell yr Hen Goleg

'Lady Principal'

Llawer o ferched Aberystwyth yn llawenhau fod merch yn mynd i fod wrth y llyw yn y Brifysgol o fis Awst 2011 ymlaen. Ond nid April McMahon yw'r ferch gyntaf i ddal swydd uchel yn y sefydliad hwnnw: bu'r Athro Lily Newton yn rhedeg y lle am flwyddyn o interregnum yn 1953, ac yn y ganrif flaenorol cafwyd 'lady principal', sef Emily Ann Carpenter (1834–1933). Yn 1887 fe'i hapwyntiwyd hi 'from a field of eighty-three applicants to the post of lady principal at the University College of Wales, Aberystwyth'. Ac ar ei hôl hi maes o law yr enwyd Carpenter Hall a agorodd ei ddrysau yn 1919. Yn yr Oxford Dictionary of National Biography mae W. Gareth Evans yn sôn am ei dyletswyddau: 'As lady principal Miss Carpenter was entrusted with general disciplinary authority over women students. Strict regulations governed women students' conduct both in the hall and out in the town, and were particularly designed to keep male and female students apart. While encouraging women students to participate in debates, dramatics, clubs, and societies—she herself founded a Browning Society and a German reading society—she insisted on chaperonage'. A dirwest hefyd. Bu farw yn 1933 yn Tunbridge Wells yn 99 oed.

Wednesday 23 February 2011

Pryd bwyd organig yn Tamed Da Prifysgol Aberystwyth

Fel rhan o ddathliadau Dydd Gwyl Dewi Sant, bydd Tamed Da (bwyty Pen-bryn Prifysgol Aberystwyth sydd ar agor i'r cyhoedd) yn darparu pryd bwyd organig am hanner dydd. Mae’r holl gynnyrch yn dod o ffermydd Ceredigion. Mwy o fanylion gan Lucy Watkins, luw1@aber.ac.uk. Mae'n dda bod cymaint o gynnyrch ffermydd y Brifysgol bellach yn cael ei ddefnyddio i ddarparu bwyd maethlon o ansawdd uchel i'r myfyrwyr. Mae llawer o weithgareddau gwyrdd eraill i'w gweld yma

Cennin Pedr a Briallu (1990) by Stephen B Whatley

Tuesday 22 February 2011

Steddfod Ryng-gol 2011

Ffantastig gweld pobl a ddysgodd Gymraeg yn cipio gwobrau yn y Steddfod Ryng-gol yn ddiweddar — Geraint Ashton (Aberystwyth, gynt o Ysgol Lewis Pengam) yn ennill Medal y Dysgwyr, a Rachel Louise Jones (Aberystwyth, o Lanafan Fawr, gynt o Ysgol Llanfair ym Muallt) hefyd yn ennill dwy wobr. O ran y rhai iaith gyntaf, cafodd Catrin Gwyn (Aberystwyth), merch Tudur Dylan, hwyl ar yr englynion, a Branwen Huws (Bangor erbyn hyn, ond gynt o Aberystwyth) a enillodd ar y Stori Fer. A gwobr fawr y Gadair yn mynd i'r gwyddonydd athrylithgar, Gruffudd Antur (Aberystwyth). Mae rhagor o newyddion am fyfyrwyr Adran Gymraeg Aberystwyth i'w gweld yn eu cylchlythyr cyfredol