O'r Parsel Canol

Friday 17 June 2011

Alan Llwyd yn gadael golygyddiaeth Barddas

Yn flin iawn clywed fod Alan Llwyd yn mynd i ollwng golygyddiaeth y cylchgrawn Barddas, ac — yn waeth na hynny — ei fod yn mynd i roi'r gorau i olygu llyfrau Gwasg Barddas. Dyma wasg sydd wedi cynnal y safonau uchaf un yn y byd cyhoeddi yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd. Anodd meddwl y gallai fod gwell golygydd ar gael nag Alan Llwyd na neb mor wybodus ag ef ym maes llenyddiaeth Gymraeg fodern. Trueni o'r mwyaf nad efe fydd wrth y llyw o hyn allan. Mae pobl wedi cymryd ei lafur dros 35 o flynyddoedd yn ganiataol braidd. Petai Alan Llwyd yn byw yn Lloegr byddai wedi cael ei urddo â'r OM am ei wasanaeth i lenyddiaeth.