O'r Parsel Canol

Tuesday 10 July 2012

Boston Legal II. Yay! I'r genedl!

Gwych gweld mai'r Llyfrgell Genedlaethol sydd wedi prynu'r llawysgrif hon o Massachusetts (gynt o Aberhonddu). Da iawn, iawn.

O.N.
 Dyma Dr Bolton o gwmni Sotheby yn egluro gwerth a phwysigrwydd y llawysgrif. Ni allaf gytuno ag ef fod Cyfraith y Gwragedd yn 'progressive', fodd bynnag, er bod ysgariad yn bosibl. Dyma un o'r pethau mae pob hanesydd teledu, pob Huw Edwards, yn ei ddweud. Ond roedd ‘gwerth’ merch yn y llyfrau cyfraith  yn hanner gwerth bachgen. Nid oedd merched yn cael eu hystyried yn gymwys fel arfer i werthu ac i brynu nac i fod yn dystion. Nid yw’n syndod fod yr hanesydd Wendy Davies wedi dweud, ‘[women] are virtually legal non-entities’.

1 Comments:

Blogger Cath said...

Diolch am bwyntio mâs gwendidau Cyfraith Hywel a gobeithio bydd y LLG yn rhoi cyfle i bobl weld (os nad cyffwrdd â)y gufrol.

10 July 2012 at 13:13  

Post a Comment

<< Home