O'r Parsel Canol

Friday 30 March 2012

cerddi botaneg Zagreb gan ferch Gwenddolen


cerddi botaneg Zagreb, originally uploaded by Gwenddolen.

Cefn Cenarth


Cefn Cenarth GW/MW-039, originally uploaded by G4OIG.

Gwenllian merch Owain Glyndwr: nofel newydd

Rwy'n gweld o Radnorian Redivivus fod llyfr newydd ar y gweill gan Y Lolfa, y tro hwn gan John Hughes am Gwenllian, merch Owain Glyndwr, a fu'n byw yng Nghenarth Saint Harmon gyda'i gwr, Phylip yn y 15g. Mae tipyn amdani a'i theulu gan y bardd, Lewys Glyn Cothi, gan gynnwys cerdd hyfryd am y bardd yn gofyn am gael gwely sgwâr a dillad a llenni'r gwely yn rhodd. Mae trafodaeth ar hon mewn pennod ar decstiliau mewn llyfr a olygwyd gan Geraint H. Jenkins, a thipyn o sôn hefyd am ferched fel hon gan Dafydd Johnston yn ei drafodaeth ar Lewys Glyn Cothi fel 'bardd y gwragedd' yn Taliesin 74 (1991). Mae John Hughes (nid y Prifathro ym Mangor sbosib) hefyd wedi seilio ei waith ar farddoniaeth Ieuan Gyfannedd a Llawdden.


Thursday 29 March 2012

Rhan o grât Ystafell Seddon, Yr Hen Goleg, Aberystwyth

Tattoo Mihangel, Kate Roberts a'r Ystlum, a'r Tu Chwith gorau eto!

Neithiwr yn Ystafell Seddon yn yr Hen Goleg, cafwyd lansiad Y Lolfa o gasgliad newydd Mihangel Morgan, Kate Roberts a'r Ystlum a Dirgelion Eraill yng nghwmni nifer o olygyddion a staff y wasg. Bleddyn Owen Huws o'r Adran Gymraeg a fu'n holi'r awdur, a Jeremy Turner, o'r un ardal â Mihangel, a fu'n darllen rhan o'r stori 'Gwir yn erbyn y Byd' am ddwy wyres J.T. Job yn yr Eisteddfot. Clywsom rywfaint — ond dim digon — am tattoo newydd yr awdur (sdim to bach ar w gen i fan hyn). Rwy'n deall fod rhai o'r myfyrwyr wedi holi heddiw am gael ei weld. Rhywbeth i gofnodi ac i ddathlu'r Flwyddyn Naid oedd y tattoo, meddai Mihangel. Heb ddatgelu gormod, gallaf ddweud fod y llun — canys llun sydd yno, nid caligraffi — mewn man hygyrch a'i fod yn syndod o chwaethus.

Tu Chwith yw'r cyhoeddiad arall sydd newydd hitio'r stondinau — yn lliwus, yn ffres, ac yn llawn stwff y mae rhywun am ei ddarllen. Ac y mae'r print yn ddigon mawr ac yn ddigon clir (wyt ti'n clywed, Taliesin?), ac mae'r dylunio'n dda. Mae Rhiannon Marks (darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ex Aber) ac Elin Angharad Owen (Nefyn/Aber) wedi comisiynu llwyth o stwff da — Iwan Wyn Rees a'i ddeialogau am yr iaith, cyfweliad gyda Llwyd Owen, stori fer gan Hynek Janousek o Brâg, Elin Llwyd Morgan, un o'r sylfaenwyr, yn cofio'r dechrau, lluniau o Simon Brooks a Mihangel fel yr oedden nhw slawer dydd, Manon Wynn Davies ar iaith y blodau a'r pabi coch, a darn anhygoel lle mae Ffraid Gwenllian yn cyfweld Rhys Llywd, Cardia Cofi. Mae Elena Parina, a fu mor huawdl ar y radio yn adrodd o Fosgo adeg yr etholiadau diweddar, yn sgrifennu am Petrograd Wiliam Owen Roberts, Rhiannon Heledd Williams yn sgrifennu o Harvard (er mai yn Fiena y mae erbyn hyn), ac mae llwyth o gerddi da, lluniau, cartwn, a mwy. Pum punt yn unig, ac mae'n werth pob ceiniog. Hir y parhao.

Friday 16 March 2012

Camil Ressu (1880-1962) Menywod ar y Glaswellt 1936

Dyfrig Prydderch yn Rwmania

Y New Welsh Review yn cynnwys 'cyfieithiadau' Diarmuid Johnson o 'bapurau' Dyfrig Prydderch, y 'Cymro' a fu'n teithio yn Rwmania yn y 1930au.

Thursday 15 March 2012

Calling all Pugs

Bydd cyfrol newydd Mihangel Morgan, Kate Roberts a'r Ystlum, yn cael ei chyhoeddi ddiwedd mis Mawrth gan Y Lolfa. Bydd y lansiad yn cael ei gynnal yn Ystafell Seddon yn yr Hen Goleg, Aberystwyth. Yn yr adeilad hardd a hanesyddol yma y mae Mihangel yn dysgu'r myfyrwyr, a dyma'r lle a ysbrydolodd ei nofel ddyfeisgar, Cestyll yn y Cymylau — yr un cyn Pantglas. Mae'r gyfrol newydd yn cynnwys storïau am gymeriadau o fyd llên — Dafydd ap Gwilym, Kate Roberts, Saunders Lewis fel na welsoch chi nhw erioed o'r blaen. Yn y cyfamser, cadwch eich llygaid ar agor am y Pugmobile coch. Rhywbeth i chi'ch dau, Daf a Caryl!