O'r Parsel Canol

Wednesday 15 August 2012

O glafdy'r Parsel

Och a gwae wedi pythefnos ar fy nghefn — nid yn joio'r haul, gwaetha'r modd, ond yn dioddef yn enbyd gan adwaith ffyrnig iawn i foddion gwrthfiotig. Nid yw'r manylion yn ffit i'w cyhoeddi yma. Felly o hirbell, megis, y daeth newyddion y Steddfod drwy'r cyfrifiadur atom yma — man lle nad oes modd derbyn  teledu byw. Mor delirious oeddwn ar y Dydd Llun fel 'mod i'n argyhoeddedig mai Anni Llyn oedd wedi mynd â'r Goron. Mawr iawn oedd y llawenydd o ddeall o'r diwedd mai Gwyneth Lewis, seren y genedl, a aethai â hi, union 20 mlynedd ar ôl iddi gael ei phipo i'r postyn gan  . . . . wel, neb llai na Cyril Jones, un o'r triawd moel/penllwyd a oedd wrthi'n beirniadu eleni. Gyda llaw, anodd gweld pam y mae rhywun yn mynnu ei alw ei hun yn Cen.

Clywais si o'r Penrhyn-coch nad oedd y Cyngor Llyfrau yn rhy bles gyda'u hen fos am atal y Fedal Ryddiaith eleni, a cholli'r cyfle i hybu gwerthiant wn i ddim faint o gopïau o'r nofel fuddugol. Ond siawns fod mwy o fynd fyth o'r herwydd ar nofel Robat Gruffudd, Afallon — nofel dda iawn, a digon o swmp ynddi.

Pwl gwaeth o salwch Ddydd Gwener. Un peth a droes fy stumog, rhaid dweud, oedd yr appoggiatura ddi-chwaeth ar ddiwedd Gweddi'r Orsedd. Hyn mewn dwylo da (Adèle), ac yn y lle iawn (nid yn Seremoni'r Cadeirio) yn gallu bod yn knockout. Rwy'n prysuro i ddweud 'mod i'n llawn edmygedd o Caryl ym mhob ffordd arall — ein Joyce Grenfell ni, a'r gallu anhygoel yna i ddynwared.

Drwy ddirgel ffyrdd, ac er gwaethaf y Moscow Rules, des i wybod pwy oedd fy neg milfed ymwelydd â'r blog. Mae'r pensaer lleol — canys dyna pwy ydyw, ac nid yr un amlwg ond yr un galluog — eisoes wedi casglu ei wobr. Mae'r 12,000fed ymweliad yn prysur agosáu, pan fydd cyfle eto i rywun ffodus ennill gwobr annisgwyl.

Thursday 2 August 2012

Gair y mis: lobsgows neu lob-sgows?

O'r Saesneg y daw hyn, meddai Geiriadur Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant. Efallai fod bodolaeth No. lapskaus (cawl a wneir â chig) a ffurfiau tebyg yn yr ieithoedd Sgandinafaidd eraill,  ac Almaeneg trefi Hansa y gogledd, yn awgrymu mai benthyciad i'r Saesneg o un o'r ieithoedd Germanaidd yw lobsgows. Ond mae eraill wedi dweud mai  gair Saesneg ydyw (lob's course), ac eraill yn bleidiol i darddiad o'r Latfeg Labs kausis, 'powlennaid boeth' neu Lithwaneg labas káuszas. Llawer o anawsterau fan hyn gyda morwyr yn teithio'n bell. Yr enghraifft gyntaf yn y Gymraeg 1869, a'r un gyntaf yn Saesneg yw 1706. Dyw hyn ddim yn air yn fy nhafodiaith i, ond rwy'n meddwl mai 'aceniad pêl-droed' sydd yma, a bod angen cysylltnod. A allai gogleddwr caredig fy ngoleuo ar hyn?